Cynnal etholiadau i gyngor prif ardal5.
(1)
Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(3)
Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.
(4)
Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
(5)
Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.
(6)
Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)
ar-lein, a
(b)
mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.
(7)
Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—
(a)
cael ei anfon drwy’r post,
(b)
cael ei anfon yn electronig, neu
(c)
cael ei ddanfon yn bersonol.