DehongliLL+C

3.—(1Yn y Rheolau hyn—

ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;

ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—

(a)

yn ddydd Sadwrn;

(b)

yn ddydd Sul;

(c)

yn Noswyl Nadolig;

(d)

yn Ddydd Nadolig;

(e)

yn ddydd Gwener y Groglith;

(f)

yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);

(g)

[F1yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;]

mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—

(a)

yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a

(b)

yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;

ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw sir neu fwrdeistref sirol;

ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(2);

ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru.

(2At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—

(a)etholiad seneddol;

(b)etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned;

(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(3);

(d)etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(4).

(3Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler [F2adrannau 202(1) a 203(1)](5) o’r Ddeddf honno)—

“anabledd” (“disability”);

“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);

“cofnod dienw” (“anonymous entry);

“deiseb etholiad” (“election petition”);

“etholwr” (“elector”);

“llys etholiad” (“election court”);

“pleidleisiwr” (“voter”);

“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);

“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);

“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);

“swyddog priodol” (“proper officer”).

[F3system mwyafrif syml” (“simple majority system”)

system pleidlais sengl drosglwyddadwy” (“single transferable vote system”)]

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rheol 3 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (18.7.2025) gan Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864), ergl. 1(2), Atod. 3 parau. 22, 23 (ynghyd ag ergl. 1(4))

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rheol 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

(2)

O.S. 2004/294 fel y’i diwygiwyd gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chan O.S. 2006/3278, O.S. 2012/1917, O.S. 2014/920 ac O.S. 2015/654.

(4)

2011 p. 13. Diwygiwyd Pennod 6 o Ran 1 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) (Atodlen 8, paragraff 184), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (Atodlen 1, paragraff 5), gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3) (adran 122(1), Atodlen 2, paragraff 117 ac Atodlen 9, paragraff 73) a chan Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (adran 8). Fe’i diwygiwyd hefyd gan O.S. 2014/268, O.S. 2015/1376, O.S. 2015/1526, O.S. 2016/997, O.S. 2017/470 ac O.S. 2018/1310.

(5)

Diwygiwyd adran 202(1) gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50) (Atodlen 2, paragraff 3), gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29) (Atodlen 3, paragraff 38), gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (Atodlen 6, paragraff 9), gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (Atodlen 1, paragraffau 13, 76 ac 128) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Atodlen 2, paragraff 2(17)). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.