Dehongli3.

(1)

Yn y Rheolau hyn—

ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;

ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—

(a)

yn ddydd Sadwrn;

(b)

yn ddydd Sul;

(c)

yn Noswyl Nadolig;

(d)

yn Ddydd Nadolig;

(e)

yn ddydd Gwener y Groglith;

(f)

yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19714;

(g)

F1yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;

mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—

  1. (a)

    yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a

  2. (b)

    yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;

ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw sir neu fwrdeistref sirol;

ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 20045;

ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru.

(2)

At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—

(a)

etholiad seneddol;

(b)

etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned;

(c)

etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 20076;

(d)

etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 20117.

(3)

Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler F2adrannau 202(1) a 203(1)8 o’r Ddeddf honno)—

“anabledd” (“disability”);

“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);

“cofnod dienw” (“anonymous entry);

“deiseb etholiad” (“election petition”);

“etholwr” (“elector”);

“llys etholiad” (“election court”);

“pleidleisiwr” (“voter”);

“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);

“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);

“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);

“swyddog priodol” (“proper officer”).

F3system mwyafrif syml” (“simple majority system”)

system pleidlais sengl drosglwyddadwy” (“single transferable vote system”)