Search Legislation

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1457 (Cy. 373)

Addysg, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021

Gwnaed

16 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

18 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 97(1) a (2) a chan adran 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2022.

Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002

2.—(1Mae rheoliad 5B o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (9)(b)(ii), yn lle “approved by the Welsh Ministers under section 347 of that Act” rhodder “specially organised to make additional learning provision for pupils with additional learning needs (within the meaning of section 579 of that Act)”.

(3Ym mharagraff (9)(b)(iii), yn lle’r geiriau o “with the consent of” hyd at ddiwedd paragraff (iii) rhodder “during any period before 1 September 2021 when the adult was attending it, either was approved by the Welsh Ministers under section 347 of that Act or, with the consent of the Welsh Ministers under section 347(5)(b) of that Act, provided places for children with special educational needs (within the meaning of section 579 of that Act as it applied immediately before that date)”.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

3.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf 2018;;

ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;.

(3Yn Atodlen 2, ar ddechrau paragraff 9 mewnosoder “Ar gyfer disgybl y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.

(4Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A.  Ar gyfer disgybl y mae Rhan 2 o Ddeddf 2018 yn gymwys mewn perthynas ag ef, a oes gan y disgybl anghenion dysgu ychwanegol ac, os felly, cadarnhad ynghylch—

(a)holl anghenion dysgu ychwanegol y disgybl a nodwyd;

(b)a oes gan y disgybl gynllun datblygu unigol a gynhelir o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 ac, os felly, a yw corff llywodraethu’r ysgol neu’r awdurdod lleol yn ei gynnal; ac

(c)y cymorth a ddarperir.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

4.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf 2018;;

ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;.

(3Yn Atodlen 1, ar ddechrau paragraff 4 mewnosoder “Ar gyfer plentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.

(4Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

4A.  Ar gyfer plentyn y mae Rhan 2 o Ddeddf 2018 yn gymwys mewn perthynas ag ef, a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol ac, os felly, cadarnhad ynghylch—

(a)anghenion dysgu ychwanegol y plentyn a nodwyd; a

(b)a oes gan y plentyn gynllun datblygu unigol a gynhelir o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 ac, os felly, a yw corff llywodraethu ysgol neu awdurdod lleol yn ei gynnal.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

16 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”). Mae’r Ddeddf honno yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth ynglŷn â thystysgrifau cofnod troseddol manwl ac i is-ddeddfwriaeth ynglŷn â darparu gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2002/233. Mewnosodwyd rheoliad 5B gan O.S. 2013/1194, rheoliad 2(1) a (5) a’r Atodlen. Mae diwygiadau i reoliad 5B nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd paragraff 9(a) o Atodlen 2 gan O.S. 2016/837 (Cy. 211), rheoliad 2(c).

(4)

O.S. 2009/3355 (Cy. 294), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources