NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ystod y 10 niwrnod cyn iddynt gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu pob gwlad o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth y mae’n ofynnol i weithredwyr ei darparu i deithwyr sy’n teithio i’r DU o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn gyson ledled y DU.

Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd yr angen i’w rhoi ar waith ar frys er mwyn ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.