(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1132 (Cy. 111)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu, ar gyfer ffederasiynau sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig, y caniateir i berson gael ei ethol yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr er ei fod yn gweithio yn yr un ysgol ffederal ag athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr blaenorol a wasanaethodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.