2021 Rhif 1431 (Cy. 370)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 19(3) a (9) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20021, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Chwefror 2022.

Diwygiadau i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20142.

(1)

Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20143 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 15 (athro-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—

(a)

daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a

(b)

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

“; neu

(b)

ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.”

(3)

Yn rheoliad 16 (staff-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—

(a)

daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a

(b)

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

“; neu

(b)

ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.”

Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1132 (Cy. 111)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu, ar gyfer ffederasiynau sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig, y caniateir i berson gael ei ethol yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr er ei fod yn gweithio yn yr un ysgol ffederal ag athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr blaenorol a wasanaethodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.