2021 Rhif 1428 (Cy. 369) (C. 80)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2021

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi1.

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2021.

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20212.

(1)

Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20212 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl erthygl 22 mewnosoder—

“Galluedd plant23.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)

i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11(2);

(b)

i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;

(c)

i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol yn erthygl 13(1);

(d)

i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2);

(e)

i’r ddyletswydd i roi hysbysiad ADY yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 14(3).

(2)

Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol priodol (yn ôl y digwydd) yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(3)

Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(4)

Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.”

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20213.

(1)

Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20213 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl erthygl 20 mewnosoder—

“Galluedd plant21.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)

i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11(2);

(b)

i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;

(c)

i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1);

(d)

i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2).

(2)

Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(3)

Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(4)

Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.”

Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 i wneud darpariaeth ynghylch galluedd plant. Mae hyn yn adlewyrchu adran 84 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol yn y Ddeddf honno mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.