Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2022.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M48” yw traffordd yr M48 De Swydd Gaerloyw i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder2.
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M48 a bennir yn yr Atodlen.
YR ATODLENDARNAU O DRAFFORDD YR M48
Y darnau a ganlyn o draffordd yr M48 wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse) yn Sir Fynwy—
(a)
y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 200 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd gylchredol, a
(b)
y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 250 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd gylchredol.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M48 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru.