Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), a weithredodd yr argymhellion ar gyfer newidiadau i drefniadau etholiadol Sir Powys, fel yr oeddent wedi eu cynnwys yn Adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dyddiedig mis Mawrth 2019 (“yr Adroddiad”), gydag addasiadau.

Mae’r Tabl yn yr Atodlen i Orchymyn 2021 (“y Tabl”) yn nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys. Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 3 o’r Tabl mewn perthynas â’r ward etholiadol honno. Drwy gamgymeriad hepgorodd yr Adroddiad wybodaeth benodol mewn perthynas â wardiau etholiadol Llandrinio, Llandysilio a Llansanffraid, ac o ganlyniad nid oedd yr wybodaeth honno wedi ymddangos yng ngholofn 3 o’r Tabl. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.