Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1383 (Cy. 363)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

6 Rhagfyr 2021

Gwnaed

8 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

1 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 31(1)(a) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020(1)a pharagraff 27 o Atodlen 5 iddi.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2022.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

2.  Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(3), ar ôl rheoliad 15 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

16.(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad gwella mewn cysylltiad â gwin Atodiad 15 yr UE (gan gynnwys gwin Atodiad 15 yr UE a labelwyd ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny) a roddir ar y farchnad yng Nghymru—

(a)gan gyfanwerthwr neu gynhyrchwr yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2022 ac sy’n dod i ben ar 1 Mai 2023;

(b)gan fanwerthwr ar 1 Ionawr 2022 neu ar ôl hynny hyd nes bydd y stociau o win Atodiad 15 yr UE wedi eu disbyddu.

(2) Yn y rheoliad hwn—

mae “a roddir ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli gan gymryd i ystyriaeth y diffiniad o “placing on the market” ym mhwynt 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

mae i “y Cytundeb Masnach a Chydweithredu” yr un ystyr a roddir i “the Trade and Cooperation Agreement” yn adran 37(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020;

ystyr “gwin Atodiad 15 yr UE” (“EU Annex 15 wine”) yw gwin—

(a)

y mae Erthygl 5 (mesurau trosiannol) o Atodiad 15 (masnachu gwin) i’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) (cwmpas) o’r Atodiad hwnnw, yn gymwys iddo, a

(b)

a gaiff ei fewnforio i Brydain Fawr o Aelod-wladwriaeth;

ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 (p. 29). Maent yn gweithredu Erthygl 5 o Atodiad 15 i’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chymuned Ynni Atomig Ewrop a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (“y CMCh”). Mae Atodiad 15 i’r CMCh yn gwneud darpariaeth ar gyfer masnachu gwin ac mae Erthygl 5 yn darparu ar gyfer mesurau trosiannol sy’n ymwneud â labelu a rhoi ar y farchnad win a gynhyrchwyd cyn dyddiad dod i rym y CMCh. Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303) (Cy. 227) i sicrhau y gellir parhau i werthu’r gwin hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2020 p. 29. Gweler adran 37(1) am y diffiniad o “relevant national authority”.

(2)

EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2014/2303 (Cy. 227), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.