2021 Rhif 1383 (Cy. 363)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 31(1)(a) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 20201a pharagraff 27 o Atodlen 5 iddi.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.