(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio â gofynion penodol. Mae “teithwyr rheoliad 2A” yn gategori o berson sydd wedi ei esemptio rhag gofynion penodol. Mae’r categori hwnnw yn cynnwys teithwyr sydd wedi eu brechu a theithwyr o dan 18 oed.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn gwneud profion cyn ymadael yn ofynnol mewn perthynas â “teithwyr rheoliad 2A” sy’n 12 oed neu’n hŷn.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r adeg pan fo rhaid cymryd prawf cyn ymadael i ddim mwy na 48 o oriau cyn ymadael.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.