Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021
RHAN 1ENWI A CYCHWYN
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007
PENNOD 1Cyflwyniad
2.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiadau i’r Atodlen3.
Yn yr Atodlen—
(a)
ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(ii)
“(v)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”
(iii)
“(2)
Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 20206); neu(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(b)
ym mharagraff 2A(1)(a) a (b), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” ym mhob achos rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(c)
ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—
(i)
ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii)
ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(iii)
“(3)
At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiadau i reoliadau 4 i 8
4.
Yn rheoliad 4—
(a)
ym mharagraff (1)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b)
ym mharagraff (1B), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
5.
Yn rheoliad 5—
(a)
ym mharagraffau (1)(b)(i) ac (c)(i), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b)
ym mharagraff (4), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
6.
Yn rheoliad 6 —
(a)
ym mharagraffau (2)(a) a (3)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b)
ym mharagraff (5), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
7.
Yn rheoliad 7—

8.
Yn rheoliad 8—
(a)
ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b)
ym mharagraff (4), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
Diwygiadau i’r Atodlen
9.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir9BA.
(1)
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs;
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE; neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)
sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;
(ch)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).
(3)
Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.”
RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG UWCH (CYRSIAU CYMHWYSOL, PERSONAU CYMHWYSOL A DARPARIAETH ATODOL) (CYMRU) 2015
PENNOD 1Cyflwyniad
10.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiadau i’r Atodlen11.
Yn yr Atodlen—
(a)
ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(ii)
“(iv)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(iii)
“(2)
Ym mharagraff (1)(iv) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(b)
ym mharagraff 2A(1)(a) a (b), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” ym mhob achos rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(c)
ym mharagraff 3—
(i)
yn is-baragraff (1)(a)(iii)(bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(ii)
yn is-baragraff (1)(a)(iii)(cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(iii)
“(3)
At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiad i reoliad 412.
Yn rheoliad 4—
(a)
ym mharagraff (3A), yn lle “paragraff 8A neu 9B” rhodder “paragraff 8A, 9B neu 9BA”;
(b)
ym mharagraff (9)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
Diwygiad i’r Atodlen13.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir9BA.
(1)
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE, neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE;
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)
sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â pharagraff 1(3).
(3)
Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.”
RHAN 4DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017
PENNOD 1Cyflwyniad
14.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiadau i reoliadau 2, 4, 81 a 110
15.
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;
(ii)
“(v)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(b)
“(2)
Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
16.
Yn rheoliad 4(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
17.
Yn rheoliad 81(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
18.
Yn rheoliad 110(12E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
Diwygiad i Atodlen 1
19.
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 2A—
(i)
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii)
yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol.”
(b)
ym mharagraff 3—
(i)
yn is-baragraff (1)(a)(iv)(bb) ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii)
yn is-baragraff (1)(a)(iv)(cc) ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(iii)
“(3)
At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(c)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol.”
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiadau i reoliadau 4, 23, 41, 81 a 110
20.
Yn rheoliad 4(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
21.
Yn rheoliad 23(2), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.
22.
Yn rheoliad 41(3), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.
23.
Yn rheoliad 81(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
24.
Yn rheoliad 110(3)(a)(i), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
Diwygiadau i Atodlen 1
25.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir9BA.
(1)
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)
sydd—
(i)
yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii)
yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
Diwygiad i Atodlen 4
26.
Yn Atodlen 4 paragraff (3), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
RHAN 5DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD FEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2017
PENNOD 1Cyflwyniad
27.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiadau i reoliadau 2 a 3
28.
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(b)
“(v)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”
(c)
“(2)
Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
29.
Yn rheoliad 3(10)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
Diwygiadau i Atodlen 1
30.
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 2A—
(i)
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii)
yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
(b)
ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—
(i)
ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii)
ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(iii)
“(3)
At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”;
(c)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiad i reoliad 331.
Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
Diwygiad i Atodlen 132.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir9BA.
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)
sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
RHAN 6DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
PENNOD 1Cyflwyniad
33.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiad i reoliad 23
34.
Yn rheoliad 23E(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
Diwygiadau i Atodlen 1
35.
Yn Atodlen 1 paragraff 6(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1);
(b)
“(v)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(c)
“(2)
Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio yn ystod y cyfnod pontio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
Diwygiadau i Atodlen 2
36.
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1—
(a)
yn is-baragraff (2)(a)(iv)—
(i)
ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;
(ii)
yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;
(b)
yn is-baragraff (3)—
(i)
ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii)
ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d);
(iii)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol”.
(c)
“(5)
At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
37.
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
Diwygiad i Atodlen 4
38.
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)(i) yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiadau i reoliadau 9 a 10
39.
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6B,” mewnosoder “6BA,”.
40.
Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 8 ar ôl “6B” mewnosoder “, 6BA”.
Diwygiadau i Atodlen 2
41.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir6BA.
(1)
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir, neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)
sydd—
(i)
yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)
yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(e)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 9(2).”
Diwygiadau i Atodlen 4
42.
Yn Atodlen 4—
(a)
ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “6B,” mewnosoder “6BA,”;
(b)
ym mharagraff 5(1), yn eithriad 7 yn lle “5A neu 6B” rhodder “5A, 6B neu 6BA”.
RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018
PENNOD 1Cyflwyniad
43.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiadau i reoliadau 2 a 3
44.
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;
(b)
“(v)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”
(c)
“(2)
Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
45.
Yn rheoliad 3(11)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
Diwygiadau i Atodlen 1
46.
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 2A—
(i)
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii)
yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
(b)
ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—
(i)
ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(ii)
ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(iii)
“(3)
At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”;
(c)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiadau i reoliad 347.
Yn rheoliad 3—
(a)
ym mharagraff (2)(a), ar ôl “10B,” mewnosoder “10BA,”;
(b)
ym mharagraff (2B), yn lle “9A, 10B neu 10D” rhodder “9A, 10B, 10BA neu 10D”.
Diwygiadau i Atodlen 148.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir10BA.
(1)
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)
sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
RHAN 8DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (GRADDAU MEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2019
PENNOD 1Cyflwyniad
49.
PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad
Diwygiad i reoliad 12
50.
Yn rheoliad 12A(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
Diwygiadau i Atodlen 1
51.
Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a)
mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(b)
“(v)
sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion, neu”;
(c)
“(2)
Yn is-baragraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)
Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,
(b)
Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu
(c)
Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
Diwygiadau i Atodlen 2
52.
Yn Atodlen 2—
(a)
ym mharagraff 1—
(i)
yn is-baragraff (2)(a)(iv)—
(aa)
ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;
(bb)
yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (5)”;
(ii)
yn is-baragraff (3)—
(aa)
ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(bb)
ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(cc)
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
(iii)
“(5)
At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)
Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,
(b)
Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu
(c)
Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
53.
“(e)
na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir
Diwygiadau i reoliadau 9 a 10
54.
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8B,” mewnosoder “8BA,”.
55.
Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 12 ar ôl “8B” mewnosoder “, 8BA”.
Diwygiadau i Atodlen 2
56.
“Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir8BA.
(1)
Person—
(a)
sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu
(ii)
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)
sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(e)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2)
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(5).”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod effaith lawn yn cael ei rhoi i’r cytundeb ymadael â’r UE fel y mae’n ymwneud â hawliau’r rheini sy’n gwneud ceisiadau hwyr i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac i aelodau o’r teulu a fydd yn ymuno â hwy yn y dyfodol ond nad ydynt eto wedi gwneud cais ac sy’n dal i fod o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.
Mae’r darpariaethau presennol sy’n ymwneud â chymhwystra myfyrwyr i gael cymorth i fyfyrwyr Cymreig wedi eu diwygio fel nad yw personau (ac eithrio dinasyddion Gwyddelig penodol) sy’n dod i Gymru o Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel at ddibenion astudio yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu.
Mae diwygiadau wedi eu gwneud hefyd i Reoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 i wneud dinasyddion Gwyddelig sy’n byw yn yr AEE neu’r Swistir ar ddiwedd y cyfnod pontio yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr os ydynt yn dechrau cyrsiau yng Nghymru ar neu cyn 31 Rhagfyr 2027.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cyfatebol i’r Rheoliadau a ganlyn—
Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015;
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017;
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018;
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.