Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod effaith lawn yn cael ei rhoi i’r cytundeb ymadael â’r UE fel y mae’n ymwneud â hawliau’r rheini sy’n gwneud ceisiadau hwyr i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac i aelodau o’r teulu a fydd yn ymuno â hwy yn y dyfodol ond nad ydynt eto wedi gwneud cais ac sy’n dal i fod o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.
Mae’r darpariaethau presennol sy’n ymwneud â chymhwystra myfyrwyr i gael cymorth i fyfyrwyr Cymreig wedi eu diwygio fel nad yw personau (ac eithrio dinasyddion Gwyddelig penodol) sy’n dod i Gymru o Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel at ddibenion astudio yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu.
Mae diwygiadau wedi eu gwneud hefyd i Reoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 i wneud dinasyddion Gwyddelig sy’n byw yn yr AEE neu’r Swistir ar ddiwedd y cyfnod pontio yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr os ydynt yn dechrau cyrsiau yng Nghymru ar neu cyn 31 Rhagfyr 2027.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cyfatebol i’r Rheoliadau a ganlyn—
Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015;
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017;
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018;
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.