Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
ystyr “strategaeth tlodi plant” yw strategaeth sy’n nodi pob un o’r pethau a bennir yn adran 2(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
(b)
ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
(c)
ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(d)
ystyr “cyfnod y strategaeth” yw’r cyfnod y mae strategaeth tlodi plant mewn perthynas ag ef.
Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a’r strategaethau tlodi plant sy’n dilyn3.
(1)
Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.
(2)
Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 yw’r cyfnod—
(a)
sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth (gweler rheoliad 4(2)), a
(b)
sy’n dod i ben ar 31 Mawrth yn y drydedd flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cyhoeddir y strategaeth ynddi.
(3)
Cyfnod y strategaeth ar gyfer strategaethau tlodi plant dilynol yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn union ar ôl diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth flaenorol.
Amseriad cyhoeddi’r strategaeth tlodi plant gyntaf a’r strategaethau tlodi plant sy’n dilyn4.
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf ar 1 Ebrill 2023 neu cyn hynny.
(2)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig.
(3)
Rhaid i strategaethau dilynol gael eu cyhoeddi ar y dyddiad y mae cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth yn dechrau neu cyn hynny.
Dull cyhoeddi strategaeth tlodi plant5.
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi strategaeth tlodi plant drwy ei rhoi ar ei wefan ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth a rhaid iddo gynnal y strategaeth ar y wefan honno drwy gydol cyfnod y strategaeth.
(2)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.
Adolygiad o’r strategaeth tlodi plant6.
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu pob un o’i strategaethau tlodi plant cyn diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth o dan sylw.
(2)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig lunio adroddiad ar y cyfryw adolygiad a rhaid iddo gyhoeddi’r adroddiad adolygu drwy ei roi ar ei wefan.
(3)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (2) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.
Gofyniad ymgynghori7.
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig, cyn cyhoeddi strategaeth tlodi plant, ymgynghori â Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a phersonau eraill sydd, yn nhyb y cyd-bwyllgor corfforedig, yn briodol.
Diwygio Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 20118.
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniad awdurdodau Cymreig at ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn awdurdodau Cymreig at ddiben y Mesur.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r cyfnod amser y mae strategaeth tlodi plant a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag ef, pa bryd y dylai’r strategaeth gael ei hadnewyddu, pa bryd a sut y dylai’r strategaeth gael ei chyhoeddi a sut y gellir ei harchwilio.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011, drwy ddatgymhwyso’r Rheoliadau hynny i gyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.