2021 Rhif 1361 (Cy. 357)
Llywodraeth Leol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20102.

Yn adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20102, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

“(ba)

cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymreig wneud a dangos eu cyfraniad tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) at y rhestr o awdurdodau Cymreig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru ac y mae’n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau neu gyfarwyddiadau a roddir o dan y Mesur gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.