(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymreig wneud a dangos eu cyfraniad tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) at y rhestr o awdurdodau Cymreig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru ac y mae’n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau neu gyfarwyddiadau a roddir o dan y Mesur gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.