Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 20152.
(1)
(2)
“(ba)
cyd-bwyllgor corfforedig;”.
(3)
“8AAmcanion llesiant cyd-bwyllgorau corfforedig
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)
heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2023, a
(b)
ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(2)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)
heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig, a
(b)
ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(3)
Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu ei amcanion llesiant.
(4)
Os yw cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)
Caiff cyd-bwyllgor corfforedig, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6)
Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7)
Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.”
(4)
Yn adran 9(1) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill), ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”.
(5)
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Mae adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn rhestru personau penodol sy’n “corff cyhoeddus” at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn nodi’r nodau llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus geisio eu cyrraedd. Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn galluogi swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i fonitro ac asesu i ba raddau y mae’r amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus o dan Ran 2 o’r Ddeddf yn cael eu cyflawni.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6 o’r Ddeddf, ac fel cyrff o’r fath mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn agored i gydymffurfio â Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Ddeddf drwy ddatgymhwyso adran 9 o’r Ddeddf mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig. Mae adran 8A, sy’n pennu pan fo rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig osod ac adolygu ei amcanion llesiant, wedi ei mewnosod yn y Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi gan yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.