Mae adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn rhestru personau penodol sy’n “corff cyhoeddus” at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn nodi’r nodau llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus geisio eu cyrraedd. Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn galluogi swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i fonitro ac asesu i ba raddau y mae’r amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus o dan Ran 2 o’r Ddeddf yn cael eu cyflawni.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6 o’r Ddeddf, ac fel cyrff o’r fath mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn agored i gydymffurfio â Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Ddeddf drwy ddatgymhwyso adran 9 o’r Ddeddf mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig. Mae adran 8A, sy’n pennu pan fo rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig osod ac adolygu ei amcanion llesiant, wedi ei mewnosod yn y Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi gan yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.