2021 Rhif 1359 (Cy. 355)
Llywodraeth Leol, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 19492.

(1)

Mae adran 11A (dyletswydd cyrff a phersonau penodol i roi sylw i’r dibenion y dynodwyd Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 19492 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (4), yn y diffiniad o “public body”, ar ôl “local authority,” mewnosoder “corporate joint committee,”.

(3)

Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

“(7)

In this section, “corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p. 97) (“Deddf 1949”). Mae adran 11A(2) yn darparu, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy’n effeithio ar dir, mewn unrhyw Barc Cenedlaethol, bod rhaid i “relevant authority” roi sylw i’r dibenion a bennir yn adran 5(1) o Ddeddf 1949.

Cadw a gwella’r harddwch naturiol, y bywyd gwyllt a’r dreftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig Parciau Cenedlaethol yw’r dibenion yn adran 5(1).

Mae’r awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon wedi eu diffinio yn adran 11A(3) ac maent yn cynnwys “any public body”, y mae ei ddiffiniad yn cynnwys unrhyw “local authority, joint board or joint committee” (adran 11A(4)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 11A(4) fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”), wedi eu cynnwys yn y diffiniad o “public body”. Drwy hyn, mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 11A(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.