NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p. 97) (“Deddf 1949”). Mae adran 11A(2) yn darparu, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy’n effeithio ar dir, mewn unrhyw Barc Cenedlaethol, bod rhaid i “relevant authority” roi sylw i’r dibenion a bennir yn adran 5(1) o Ddeddf 1949.

Cadw a gwella’r harddwch naturiol, y bywyd gwyllt a’r dreftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig Parciau Cenedlaethol yw’r dibenion yn adran 5(1).

Mae’r awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon wedi eu diffinio yn adran 11A(3) ac maent yn cynnwys “any public body”, y mae ei ddiffiniad yn cynnwys unrhyw “local authority, joint board or joint committee” (adran 11A(4)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 11A(4) fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”), wedi eu cynnwys yn y diffiniad o “public body”. Drwy hyn, mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 11A(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.