NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“Deddf 2010”) yn darparu’r rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol (“y ddyletswydd”). Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 2(4)(a) o Ddeddf 2010, ychwanegu awdurdod perthnasol at y rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd. Ystyr “relevant authority” yw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) y mae ei swyddogaethau’n cyfateb i swyddogaethau awdurdod a bennir am y tro yn is-adran (3) neu y cyfeirir ato yn is-adran (4) o adran 1 o Ddeddf 2010 neu y mae ei swyddogaethau’n debyg i swyddogaethau awdurdod o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hyn yn arfer y pŵer yn adran 2(4)(a) o Ddeddf 2010 i ddiwygio adran 1 o’r Ddeddf honno er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig at y rhestr o awdurdodau perthnasol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.