Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20162.
(1)
(2)
Yn is-adran (9), yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus”, ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.
(3)
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) er mwyn cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus” yn is-adran (9) o’r adran honno, fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (“y ddyletswydd bioamrywiaeth”). O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth wneud penderfyniadau.
Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“y Ddeddf”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ