RHAN 2Swyddogion gweithrediaeth
Prif weithredwr
Dyletswydd i benodi prif weithredwr3.
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig benodi prif weithredwr.
(2)
Rhaid i brif weithredwr cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)
adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir ym mharagraff (3), a
(b)
pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyd-bwyllgor corfforedig yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.
(3)
Y materion yw—
(a)
y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer ei wahanol swyddogaethau,
(b)
trefniadau’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag—
(i)
cynllunio ariannol,
(ii)
rheoli asedau, a
(iii)
rheoli risg,
(c)
nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer ei swyddogaethau,
(d)
trefniadaeth staff y cyd-bwyllgor corfforedig,
(e)
penodi staff y cyd-bwyllgor corfforedig, ac
(f)
y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu.
(4)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r prif weithredwr drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.
(5)
Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad a wnaed o dan baragraff (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at yr aelodau am y tro cyntaf.
(6)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan y rheoliad hwn.
(7)
Nid yw rheoliad 13 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir ar gyd-bwyllgor corfforedig gan baragraff (5).