21.—(1) Os yw’n ofynnol gan reoliad 18(1) neu 20(1) i gopïau o adroddiad cyfan neu ran o adroddiad ar gyfer cyfarfod CBC gael eu cyhoeddi’n electronig, ac am gyhyd ag y bo hynny’n ofynnol—
(a)rhaid i bob un o’r copïau hynny gynnwys copi o restr, a luniwyd gan swyddog priodol, o’r papurau cefndir ar gyfer yr adroddiad neu’r rhan o’r adroddiad, a
(b)rhaid cyhoeddi’n electronig bob un o’r dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr honno, ond os yw swyddog priodol o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr yn electronig, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi ar gais at unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais am gopi gael ei wneud.
(2) Pan gaiff copïau o ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr eu cyhoeddi o dan baragraff (1)(b) rhaid iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.
(3) Pan wneir trefniadau i anfon copïau o ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr at aelodau o’r cyhoedd ar gais o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r trefniadau hynny barhau hyd nes y daw’r cyfnod hwnnw o chwe mlynedd i ben.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddogfen sy’n datgelu gwybodaeth esempt gael ei chynnwys yn y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
(5) Er gwaethaf cyffredinolrwydd rheoliad 16(4), nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi cynnwys yn y rhestr unrhyw ddogfen a fyddai, pe’i cyhoeddid yn electronig neu pe’i hanfonid at aelod o’r cyhoedd, yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.
(6) Ym mharagraff (5), mae i “gwybodaeth gyfrinachol” yr un ystyr ag yn rheoliad 16(5)(a) ac mae’r cyfeiriad at y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, y papurau cefndir ar gyfer adroddiad yw’r dogfennau hynny sy’n ymwneud â phwnc yr adroddiad—
(a)sy’n datgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y mae’r adroddiad neu ran bwysig o’r adroddiad, ym marn swyddog priodol, yn seiliedig arnynt, a
(b)y dibynnwyd arnynt, ym marn y swyddog, i raddau arwyddocaol wrth lunio’r adroddiad,
ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw weithiau cyhoeddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 21 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)