RHAN 5Cyfarfodydd a thrafodion
Cyhoeddi cofnodion a dogfennau eraill ar ôl cyfarfodydd20
1
Ar ôl cyfarfod CBC rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—
a
cyhoeddi’n electronig y dogfennau a restrir ym mharagraff (2), a
b
sicrhau bod y dogfennau hynny’n parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.
2
Y dogfennau yw—
a
cofnodion, neu gopi o gofnodion, y cyfarfod, gan hepgor pa rannau bynnag o gofnodion y trafodion nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod sy’n datgelu gwybodaeth esempt,
b
pan fo hynny’n gymwys, crynodeb o dan baragraff (4),
c
copi o’r agenda ar gyfer y cyfarfod, a
d
copi o ba rannau bynnag o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod sy’n ymwneud ag unrhyw eitem yr oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn ei hystod.
3
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfarfod CBC, a pha un bynnag cyn diwedd saith niwrnod gwaith gan ddechrau â’r diwrnod y cynhelir y cyfarfod, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi’n electronig nodyn yn nodi—
a
enwau’r aelodau a fynychodd y cyfarfod, ac unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb;
b
unrhyw ddatganiadau o fuddiant;
c
unrhyw benderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, gan gynnwys canlyniadau unrhyw bleidleisiau, ond heb gynnwys unrhyw beth sy’n ymwneud â phenderfyniad a wnaed pan nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd sy’n datgelu gwybodaeth esempt.
4
Pan nad yw’r dogfennau a gyhoeddwyd o dan baragraff (1)(a) a (3)(c) yn darparu i aelodau o’r cyhoedd gofnod rhesymol deg a chydlynol o’r trafodion cyfan neu ran ohonynt, a hynny o ganlyniad i hepgor deunydd sy’n datgelu gwybodaeth esempt, rhaid i swyddog priodol lunio crynodeb ysgrifenedig o’r trafodion neu’r rhan, yn ôl y digwydd, sy’n darparu cofnod o’r fath heb ddatgelu’r wybodaeth esempt.