RHAN 5Cyfarfodydd a thrafodion

Dilysrwydd trafodionI115

1

Nid yw trafodion cyd-bwyllgor corfforedig neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig wedi eu hannilysu gan—

a

unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig neu’r is-bwyllgor;

b

unrhyw ddiffyg o ran penodi neu gyfethol yr aelodau neu o ran eu cymwysterau.

2

Ond mae paragraff (1)(a) yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu gan reolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig sy’n peri na chaniateir arfer swyddogaeth mewn cyfarfod oni chaiff gofynion penodol eu bodloni ynghylch—

a

cyfansoddiad y cyd-bwyllgor corfforedig neu’r is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig;

b

cyfansoddiad y cyfarfod, gan gynnwys gofynion o ran bod cworwm yn y cyfarfod.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 15 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Lleoliad cyfarfodydd a chaniatáu i’r cyhoedd a’r wasg fynd iddyntI216

1

Caniateir cynnal cyfarfod CBC—

a

mewn lleoliad a bennir gan y cyd-bwyllgor corfforedig;

b

drwy ddulliau o bell;

c

yn rhannol drwy ddulliau o bell ac yn rhannol mewn lleoliad a bennir gan y cyd-bwyllgor corfforedig.

2

Rhaid i gyfarfod CBC fod yn agored i’r cyhoedd oni bai ac i’r graddau bod y cyhoedd wedi ei wahardd—

a

yn rhinwedd paragraff (3), neu

b

drwy benderfyniad a wnaed o dan baragraff (6).

3

Rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod CBC yn ystod eitem o fusnes os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei bod yn debygol, oherwydd natur y busnes hwnnw neu natur y trafodion, pe bai aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ystod yr eitem honno, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu iddynt gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.

4

Rhaid peidio â chymryd bod unrhyw beth yn y Rhan hon yn awdurdodi nac yn ei gwneud yn ofynnol datgelu gwybodaeth gyfrinachol gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.

5

At ddibenion paragraffau (3) a (4)—

a

ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” yw—

i

gwybodaeth a ddarperir i gyd-bwyllgor corfforedig gan un o adrannau’r Llywodraeth, neu brif gyngor, ar delerau (sut bynnag y’u mynegir) sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd, a

ii

gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu i’r cyhoedd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu gan orchymyn llys, a

b

o ganlyniad, mae’r cyfeiriadau at y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd i’w dehongli yn unol â hynny.

6

Caiff cyd-bwyllgor corfforedig drwy benderfyniad wahardd y cyhoedd o gyfarfod CBC yn ystod eitem o fusnes os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei bod yn debygol, oherwydd natur y busnes neu natur y trafodion, pe bai aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ystod yr eitem honno, y byddai gwybodaeth esempt yn cael ei datgelu iddynt.

7

Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (6)—

a

nodi’r trafodion, neu’r rhan o’r trafodion, y mae’n gymwys iddynt neu’n gymwys iddi, a

b

datgan y disgrifiad, o ran Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26, o’r wybodaeth esempt sy’n peri i’r cyhoedd gael ei wahardd.

8

Mewn cyfarfod CBC, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir i gynrychiolwyr achrededig sefydliadau cyfryngau newyddion gyfleusterau rhesymol ar gyfer adrodd ar y trafodion ac anfon adroddiadau i’r sefydliad.

9

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig ganiatáu cymryd ffotograffau o unrhyw drafodion, na chaniatáu defnyddio unrhyw ddull i alluogi personau nad ydynt yn bresennol i weld neu glywed unrhyw drafodion (boed ar y pryd neu’n ddiweddarach), na chaniatáu gwneud unrhyw adroddiad ar lafar ar unrhyw drafodion wrth iddynt ddigwydd (ond gweler adran 46 o Ddeddf 2021 (darllediadau electronig o gyfarfodydd) fel y’i diwygiwyd gan reoliad 27).

10

Nid yw’r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw bŵer i wahardd er mwyn atal neu rwystro ymddygiad afreolus neu gamymddygiad arall mewn cyfarfod.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 16 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu am gyfarfodydd a gwysio i fynychu cyfarfodyddI317

1

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig roi hysbysiad cyhoeddus am gyfarfod CBC—

a

o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu

b

os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod.

2

Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad yn electronig a rhaid iddo—

a

pan fo’r cyfarfod wedi ei alw gan un neu ragor o aelodau’r cyd-bwyllgor corfforedig, bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod ac—

i

bod wedi ei lofnodi gan yr aelodau sy’n galw’r cyfarfod, neu

ii

dynodi cymeradwyaeth yr aelodau hynny drwy ddulliau electronig;

b

pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod a sut i’w gyrchu;

c

pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a sut i’w gyrchu;

d

pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod, a’r ffaith ei fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig ac nad yw’n agored i’r cyhoedd;

e

pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a’r ffaith nad yw’n agored i’r cyhoedd.

3

Heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod clir cyn cyfarfod CBC neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod, rhaid i swyddog priodol anfon gwŷs i fynychu’r cyfarfod at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig drwy—

a

ei hanfon drwy’r post i fan preswylio’r aelod neu, pan fo’r aelod wedi hysbysu’r swyddog priodol fod gwŷs i’w hanfon i gyfeiriad arall, i’r cyfeiriad arall hwnnw, neu

b

ei hanfon yn electronig.

4

Pan fo cyfarfod CBC yn cael ei gynnull ar fyr rybudd, rhaid i wŷs a anfonir drwy’r post o dan baragraff (3)(a) gael ei hanfon gan ganiatáu amser digonol iddi gyrraedd yn nhrefn arferol y post cyn i’r cyfarfod gael ei gynnull.

5

Rhaid i wŷs bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod.

6

Nid yw methu â chyflwyno gwŷs i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod CBC.

7

Ac eithrio yn achos—

a

busnes sy’n ofynnol gan neu o dan—

i

y Rheoliadau sefydlu,

ii

unrhyw ddeddfiad arall, neu

iii

rheolau sefydlog,

sydd i’w drafod yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cyd-bwyllgor corfforedig,

b

busnes a ychwanegir at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog ar ôl i’r wŷs gael ei hanfon, neu

c

busnes arall a ddygir gerbron cyfarfod CBC fel mater o frys yn unol â rheolau sefydlog,

ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod CBC heblaw’r busnes a bennir yn y wŷs sy’n ymwneud â’r cyfarfod (a gweler hefyd reoliad 18(6)).

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 17 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Mynediad at agenda ac at adroddiadau cysylltiedigI418

1

Rhaid i gopïau o’r agenda ar gyfer cyfarfod CBC a chopïau o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod—

a

cael ei gyhoeddi gan y cyd-bwyllgor corfforedig—

i

yn electronig, a

ii

yn unol â pharagraffau (3) i (5), a

b

parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y bo’r cyfarfod wedi dod i ben (gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch mynediad at ddogfennau ar ôl cyfarfod CBC).

2

Os gwêl swyddog priodol yn dda, caniateir hepgor o’r copïau o adroddiadau a gyhoeddir o dan baragraff (1) adroddiad cyfan, neu unrhyw ran ohono, sy’n ymwneud yn unig ag eitemau y mae’n debygol, ym marn y swyddog, na fydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod.

3

Rhaid i ddogfen y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan baragraff (1) gael ei chyhoeddi o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, yna adeg ei gynnull.

4

Pan ychwanegir eitem at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig, ar yr adeg yr ychwanegir yr eitem, gyhoeddi—

a

agenda ddiwygiedig, neu

b

adendwm i’r agenda,

yn pennu’r eitem ychwanegol.

5

Nid oes dim ym mharagraffau (3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi dogfen neu gopïau o agenda, eitem neu adroddiad hyd nes y bydd y ddogfen neu’r copïau ar gael i aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

6

Ni chaniateir ystyried eitem o fusnes mewn cyfarfod CBC oni bai naill ai—

a

y cydymffurfiwyd â pharagraff (1) neu (4) mewn cysylltiad ag agenda sy’n cynnwys yr eitem, neu

b

oherwydd amgylchiadau arbennig, y mae rhaid eu pennu yn y cofnodion, fod cadeirydd y cyfarfod o’r farn y dylid ystyried yr eitem yn y cyfarfod fel mater o frys.

7

Pan fo adroddiad cyfan neu ran o adroddiad wedi ei hepgor o dan baragraff (2)—

a

rhaid marcio “Nid i’w gyhoeddi” ar bob copi o’r adroddiad neu o’r rhan, a

b

os yw’r swyddog priodol wedi penderfynu bod y cyhoedd yn debygol o gael ei wahardd o’r cyfarfod yn rhinwedd rheoliad 16(6), rhaid datgan ar bob copi o’r adroddiad neu o’r rhan ddisgrifiad, o ran Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26, o’r wybodaeth esempt y mae’n debygol y gwaherddir y cyhoedd yn ei rhinwedd yn ystod yr eitem y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

8

O ran cyfarfod CBC—

a

pan fo’n ofynnol gan reoliad 16(2) iddo fod yn agored i’r cyhoedd yn ystod y trafodion neu ran ohonynt, a

b

pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig,

rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig beri bod nifer rhesymol o gopïau o’r agenda ac o’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod ar gael i’w defnyddio gan aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol yn y cyfarfod.

9

Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig, ar gais ac ar ôl i unrhyw dâl angenrheidiol am drawsyrru gael ei dalu, gyflenwi drwy ddulliau electronig er budd unrhyw sefydliadau cyfryngau newyddion—

a

copi o’r agenda ar gyfer cyfarfod CBC a chopi o bob un o’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod,

b

unrhyw ddatganiadau pellach neu fanylion pellach, os oes rhai, sy’n angenrheidiol i ddangos beth yw natur yr eitemau sydd wedi eu cynnwys yn yr agenda, ac

c

os gwêl swyddog priodol yn dda yn achos unrhyw eitem, gopïau o unrhyw ddogfennau eraill a gyflenwyd i aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn cysylltiad â’r eitem.

10

Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chopïau o adroddiadau a ddarperir o dan baragraff (8) neu (9) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chopïau o adroddiadau a gyhoeddir o dan baragraff (1).

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 18 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

CofnodionI519

1

Rhaid cofnodi enwau’r aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig sy’n bresennol mewn cyfarfod CBC.

2

Rhaid llunio a chofnodi cofnodion o drafodion cyfarfod CBC, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

3

Rhaid i’r person sy’n cadeirio’r cyfarfod CBC neu’r person sy’n cadeirio’r cyfarfod nesaf addas o’r fath gymeradwyo’r cofnodion drwy—

a

llofnodi’r cofnodion, neu

b

dynodi’n electronig ei fod yn eu cymeradwyo.

4

Caniateir derbyn yn dystiolaeth gofnodion yr honnir eu bod wedi eu llofnodi neu eu cymeradwyo yn y modd hwnnw heb dystiolaeth bellach.

5

Hyd nes y profir i’r gwrthwyneb, bernir bod cyfarfod CBC y mae cofnod o’i drafodion wedi ei gofnodi a’i lofnodi neu wedi ei gymeradwyo yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gynnull a’i gynnal yn briodol, a bernir bod pob un sy’n bresennol yn y cyfarfod wedi ei gymhwyso’n briodol.

6

At ddibenion paragraff (3) y cyfarfod CBC nesaf addas yw’r cyfarfod canlynol nesaf neu, pan fo rheolau sefydlog yn darparu ar gyfer ystyried bod cyfarfod arall yn addas, naill ai’r cyfarfod canlynol nesaf neu’r cyfarfod arall hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 19 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddi cofnodion a dogfennau eraill ar ôl cyfarfodyddI620

1

Ar ôl cyfarfod CBC rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—

a

cyhoeddi’n electronig y dogfennau a restrir ym mharagraff (2), a

b

sicrhau bod y dogfennau hynny’n parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.

2

Y dogfennau yw—

a

cofnodion, neu gopi o gofnodion, y cyfarfod, gan hepgor pa rannau bynnag o gofnodion y trafodion nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod sy’n datgelu gwybodaeth esempt,

b

pan fo hynny’n gymwys, crynodeb o dan baragraff (4),

c

copi o’r agenda ar gyfer y cyfarfod, a

d

copi o ba rannau bynnag o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod sy’n ymwneud ag unrhyw eitem yr oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn ei hystod.

3

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfarfod CBC, a pha un bynnag cyn diwedd saith niwrnod gwaith gan ddechrau â’r diwrnod y cynhelir y cyfarfod, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi’n electronig nodyn yn nodi—

a

enwau’r aelodau a fynychodd y cyfarfod, ac unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb;

b

unrhyw ddatganiadau o fuddiant;

c

unrhyw benderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, gan gynnwys canlyniadau unrhyw bleidleisiau, ond heb gynnwys unrhyw beth sy’n ymwneud â phenderfyniad a wnaed pan nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd sy’n datgelu gwybodaeth esempt.

4

Pan nad yw’r dogfennau a gyhoeddwyd o dan baragraff (1)(a) a (3)(c) yn darparu i aelodau o’r cyhoedd gofnod rhesymol deg a chydlynol o’r trafodion cyfan neu ran ohonynt, a hynny o ganlyniad i hepgor deunydd sy’n datgelu gwybodaeth esempt, rhaid i swyddog priodol lunio crynodeb ysgrifenedig o’r trafodion neu’r rhan, yn ôl y digwydd, sy’n darparu cofnod o’r fath heb ddatgelu’r wybodaeth esempt.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 20 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddi papurau cefndirI721

1

Os yw’n ofynnol gan reoliad 18(1) neu 20(1) i gopïau o adroddiad cyfan neu ran o adroddiad ar gyfer cyfarfod CBC gael eu cyhoeddi’n electronig, ac am gyhyd ag y bo hynny’n ofynnol—

a

rhaid i bob un o’r copïau hynny gynnwys copi o restr, a luniwyd gan swyddog priodol, o’r papurau cefndir ar gyfer yr adroddiad neu’r rhan o’r adroddiad, a

b

rhaid cyhoeddi’n electronig bob un o’r dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr honno, ond os yw swyddog priodol o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr yn electronig, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi ar gais at unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais am gopi gael ei wneud.

2

Pan gaiff copïau o ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr eu cyhoeddi o dan baragraff (1)(b) rhaid iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.

3

Pan wneir trefniadau i anfon copïau o ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr at aelodau o’r cyhoedd ar gais o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r trefniadau hynny barhau hyd nes y daw’r cyfnod hwnnw o chwe mlynedd i ben.

4

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddogfen sy’n datgelu gwybodaeth esempt gael ei chynnwys yn y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (1).

5

Er gwaethaf cyffredinolrwydd rheoliad 16(4), nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi cynnwys yn y rhestr unrhyw ddogfen a fyddai, pe’i cyhoeddid yn electronig neu pe’i hanfonid at aelod o’r cyhoedd, yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.

6

Ym mharagraff (5), mae i “gwybodaeth gyfrinachol” yr un ystyr ag yn rheoliad 16(5)(a) ac mae’r cyfeiriad at y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny.

7

At ddibenion y rheoliad hwn, y papurau cefndir ar gyfer adroddiad yw’r dogfennau hynny sy’n ymwneud â phwnc yr adroddiad—

a

sy’n datgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y mae’r adroddiad neu ran bwysig o’r adroddiad, ym marn swyddog priodol, yn seiliedig arnynt, a

b

y dibynnwyd arnynt, ym marn y swyddog, i raddau arwyddocaol wrth lunio’r adroddiad,

ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw weithiau cyhoeddedig.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 21 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso i gyfarfodydd is-bwyllgorauI822

1

Mae rheoliadau 16 i 21 yn gymwys i gyfarfod is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig fel y maent yn gymwys i gyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig.

2

Wrth gymhwyso rheoliadau 16 i 21 i gyfarfod is-bwyllgor—

a

mae cyfeiriadau at gyfarfod CBC i’w darllen fel cyfeiriadau at gyfarfod o’r is-bwyllgor;

b

mae rheoliad 16(3) i’w ddarllen fel pe bai “neu’r is-bwyllgor” wedi ei fewnosod ar ôl “cyd-bwyllgor corfforedig”;

c

mae’r cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig yn rheoliad 16(6) i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig.

3

Wrth gymhwyso rheoliadau 17 i 20 i gyfarfod is-bwyllgor, mae cyfeiriadau at aelod o gyd-bwyllgor corfforedig i’w darllen fel cyfeiriadau at aelod o’r is-bwyllgor.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 22 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Hawliau ychwanegol i aelodau o gyd-bwyllgorau corfforedig ac aelodau o brif gynghorau etc. gael mynediad at ddogfennauI923

1

Rhaid i unrhyw ddogfen sydd ym meddiant neu o dan reolaeth cyd-bwyllgor corfforedig ac sy’n cynnwys deunydd sy’n ymwneud ag unrhyw fusnes sydd i’w drafod mewn cyfarfod CBC neu mewn cyfarfod o is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), fod yn agored i edrych arni ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim gan—

a

unrhyw aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

b

unrhyw aelod o brif gyngor pan fo un o brif aelodau gweithrediaeth y cyngor yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

c

unrhyw aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol pan fo aelod o’r awdurdod hwnnw’n aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

2

Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddogfen fod yn agored i edrych arni os ymddengys i swyddog priodol ei bod yn datgelu gwybodaeth esempt.

3

Ond, er gwaethaf paragraff (2), mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddogfen fod yn agored i edrych arni os yw’r wybodaeth yn wybodaeth o ddisgrifiad sydd am y tro yn dod o fewn—

a

paragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26 (ac eithrio i’r graddau y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw delerau a gynigiwyd neu sydd i’w cynnig gan y cyd-bwyllgor corfforedig, neu iddo, yng nghwrs negodiadau am gontract), neu

b

paragraff 17 o’r Atodlen honno fel y’i cymhwysir yn y modd hwnnw.

4

Pan fo dogfen i fod yn agored i edrych arni gan berson o dan baragraff (1) caiff y person, yn ddarostyngedig i baragraff (5)—

a

gwneud copïau o’r ddogfen neu rannau o’r ddogfen, neu

b

ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu copi o’r ddogfen neu rannau o’r ddogfen,

ar ôl talu i’r cyd-bwyllgor corfforedig unrhyw ffi resymol sy’n ofynnol am y cyfleuster.

5

Nid yw paragraff (4) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi gwneud unrhyw weithred sy’n torri’r hawlfraint yn unrhyw waith heblaw, pan mai cyd-bwyllgor corfforedig yw perchennog yr hawlfraint, nad oes dim a wneir yn unol â’r paragraff hwnnw yn torri’r hawlfraint.

6

Mae’r hawliau a roddir gan y rheoliad hwn i berson yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill sydd gan y person ar wahân i’r paragraff hwn.

7

At ddibenion paragraff (1)(b), mae i “prif aelod gweithrediaeth” yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 23 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddi gwybodaeth ychwanegolI1024

1

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gadw cofrestr yn datgan—

a

enw pob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig a’i is-bwyllgorau am y tro ynghyd â chyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob aelod, y gellir anfon gohebiaeth ar gyfer yr aelod iddo, a

b

enw pob person arall sydd â hawl, yn unol â’r rheolau sefydlog, i siarad mewn cyfarfod CBC neu mewn cyfarfod o is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig ynghyd â chyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob un o’r personau hynny, y gellir anfon gohebiaeth ar gyfer y person iddo.

2

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gadw rhestr—

a

yn pennu’r swyddogaethau hynny sydd gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’i is-bwyllgorau y caiff aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, am y tro, eu cyflawni o bryd i’w gilydd yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, a

b

yn datgan teitl yr aelod o staff sydd, am y tro, yn cyflawni yn y modd hwnnw bob un o’r swyddogaethau a bennir yn y modd hwnnw,

ond nid yw’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol pennu swyddogaeth yn y rhestr os gwneir y trefniadau i’r aelod o staff ei chyflawni am gyfnod, heb fod yn hwy na chwe mis, a bennir gan y cyd-bwyllgor corfforedig.

3

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gadw crynodeb ysgrifenedig o’r hawliau—

a

i fynychu cyfarfod CBC neu gyfarfod o is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig, a

b

i edrych ar ddogfennau a’u copïo ac i gael copïau o ddogfennau,

a roddir am y tro gan y Rhan hon a’r Rheoliadau sefydlu.

4

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi’n electronig—

a

y gofrestr a gedwir o dan baragraff (1),

b

y rhestr a gedwir o dan baragraff (2), ac

c

y crynodeb a gedwir o dan baragraff (3).

5

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (4) ar gais at unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais am gopi gael ei wneud.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 24 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Darpariaethau atodolI1125

1

Nid yw’r darpariaethau yn y Rhan hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi dogfennau yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi gwneud unrhyw weithred sy’n torri’r hawlfraint yn unrhyw waith heblaw, pan mai’r cyd-bwyllgor corfforedig yw perchennog yr hawlfraint, nad oes dim a wneir yn unol â’r darpariaethau hynny yn torri’r hawlfraint.

2

Pan fo unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol cyflenwi copi o ddogfen i unrhyw berson, mae person (“P”), sydd â dogfen o dan ei ofal, yn cyflawni trosedd os yw P, heb esgus rhesymol, yn gwrthod darparu copi i’r person sydd â hawl i’w gael.

3

Mae trosedd o dan baragraff (2) i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

4

Pan gaiff unrhyw ddogfen y gellir cael mynediad ati ar gyfer cyfarfod CBC neu gyfarfod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig—

a

ei chyflenwi i aelod o’r cyhoedd,

b

ei chyhoeddi’n electronig, neu

c

ei chyflenwi er budd unrhyw sefydliad cyfryngau newyddion,

mae cyhoeddi drwy hynny unrhyw ddeunydd difenwol sydd wedi ei gynnwys yn y ddogfen yn freintiedig, oni phrofir y’i cyhoeddwyd yn faleisus.

5

At ddibenion paragraff (4), y “dogfennau y gellir cael mynediad atynt” ar gyfer cyfarfod CBC neu gyfarfod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig yw—

a

unrhyw gopi o’r agenda neu o unrhyw eitem sydd wedi ei chynnwys yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod;

b

unrhyw ddatganiadau pellach neu fanylion pellach at ddiben dangos beth yw natur unrhyw eitem sydd wedi ei chynnwys yn yr agenda a grybwyllir yn rheoliad 18(9)(b);

c

unrhyw gopi o ddogfen sy’n ymwneud ag eitem o’r fath a gyflenwir er budd sefydliad cyfryngau newyddion yn unol â rheoliad 18(9)(c);

d

unrhyw gopi o adroddiad cyfan neu ran o adroddiad ar gyfer y cyfarfod;

e

unrhyw gopi o unrhyw bapurau cefndir cyfan neu ran ohonynt ar gyfer adroddiad ar gyfer y cyfarfod;

f

y nodyn y mae’n ofynnol ei gyhoeddi o dan reoliad 20(3).

6

Mae’r hawliau a roddir gan y Rhan hon i edrych ar ddogfennau, eu copïo a’u cael yn ychwanegol at unrhyw hawliau o’r fath a roddir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, ac nid ydynt yn rhagfarnu’r hawliau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 25 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth esemptI1226

1

Y disgrifiadau o wybodaeth sydd, at ddibenion y Rhan hon, yn wybodaeth esempt yw’r rheini sydd am y tro wedi eu pennu yn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i haddaswyd o ran ei chymhwyso i’r Rhan hon gan baragraff (2) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 5 o’r Atodlen honno fel y’i haddaswyd yn y modd hwnnw.

2

At ddibenion paragraff (1), mae Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 22(2) o’r Atodlen honno—

2

Any reference in Parts 4 and 5 and this Part of this Schedule to “the authority” is a reference to the corporate joint committee or, as the case may be, the sub-committee of the corporate joint committee in relation to whose proceedings or documents the question whether information is exempt or not falls to be determined and includes a reference—

a

in the case of a corporate joint committee, to any sub-committee of the corporate joint committee, and

b

in the case of a sub-committee, to the corporate joint committee of which it is a sub-committee.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 26 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Darllediadau electronig o gyfarfodyddI1327

Yn adran 46 o Ddeddf 2021 (darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

7A

Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

a

mae’r cyfeiriadau at brif gyngor yn is-adrannau (1), (2)(a), (5) a (6) i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig, a

b

mae is-adran (2)(b) i’w thrin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—

b

is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 27 mewn grym ar 6.5.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Mynychu cyfarfodydd o bellI1428

Yn adran 47 o Ddeddf 2021 (mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol), yn is-adran (6), yn y diffiniad o “awdurdod lleol”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

cyd-bwyllgor corfforedig;

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 28 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd i ystyried adroddiadau neu argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol CymruI1529

Yn adran 26(3A) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 200412, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

ba

a corporate joint committee;

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 29 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

DehongliI1630

1

Yn y Rhan hon—

  • mae “copi” (“copy”), mewn perthynas ag unrhyw ddogfen, yn cynnwys copi a wneir o gopi;

  • ystyr “cyfarfod CBC” (“CJC meeting”) yw cyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig (ond gweler rheoliad 22);

  • mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys mynegiant o farn, unrhyw argymhellion ac unrhyw benderfyniad a wneir;

  • mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir gan reoliad 26;

  • mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021;

  • ystyr “sefydliad cyfryngau newyddion” (“news media organisation”) yw—

    1. a

      papur newydd;

    2. b

      unrhyw sefydliad sy’n ymwneud yn systematig ag adrodd newyddion drwy gyfrwng—

      1. i

        darllediadau sain neu deledu, neu

      2. ii

        cyhoeddiad electronig;

    3. c

      asiantaeth newyddion sy’n cynnal yn systematig y busnes o werthu a chyflenwi adroddiadau neu wybodaeth i bapurau newydd neu i sefydliadau cyfryngau newyddion eraill;

    4. d

      unrhyw sefydliad sy’n ymwneud yn systematig â chasglu newyddion—

      1. i

        ar gyfer darllediadau sain neu deledu;

      2. ii

        i’w cynnwys mewn rhaglenni sydd i’w cynnwys yn unrhyw wasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990) heblaw gwasanaeth darlledu sain neu deledu;

      3. iii

        i’w cyhoeddi’n electronig.

2

Mae cyfeiriadau yn unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at “swyddog priodol” yn gyfeiriadau at aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni swyddogaeth y swyddog priodol a bennir yn y ddarpariaeth o dan sylw.

3

Mae cyfeiriadau yn unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at gyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig a gynhelir drwy “ddulliau o bell” yn gyfeiriadau at gyfarfod a gynhelir drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).