RHAN 4LL+CSwyddogaethau

Cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillLL+C

13.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd yn cael ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff cyd-bwyllgor corfforedig drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan—

(a)is-bwyllgor;

(b)aelod o staff;

(c)unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig arall;

(d)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(2Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan baragraff (1) yn atal y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.

(3Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o dan baragraff (1)(a), caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, onid yw’r cyd-bwyllgor corfforedig wedi cyfarwyddo fel arall.

(4Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan is-bwyllgor o dan baragraff (3) yn atal yr is-bwyllgor hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.

(5Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni o dan baragraff (1)(c) neu (d) yna, yn ddarostyngedig i delerau’r trefniant, caiff y corff sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni’r swyddogaethau hynny drefnu iddynt gael eu cyflawni gan bwyllgor neu is-bwyllgor i’r corff hwnnw neu gan aelod o staff y corff hwnnw.

(6Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig gyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd.

(7Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) cânt hefyd drefnu i aelod o staff gyflawni’r swyddogaethau hynny.

(8Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) mae unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—

(a)y swyddogaethau hynny,

(b)y cyd-bwyllgorau corfforedig sydd i’w cyflawni, neu

(c)yr ardaloedd y maent i’w cyflawni mewn cysylltiad â hwy,

i’w ddehongli yn unol â pharagraff (9).

(9Rhaid darllen deddfiad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) fel pe bai’n cynnwys pob addasiad sy’n angenrheidiol i alluogi cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw—

(a)gan y cyd-bwyllgorau corfforedig, a

(b)mewn cysylltiad â’r ardaloedd,

y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (boed yn unol â threfniadau o dan baragraff (6) neu fel arall).

(10Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig yn cynnwys cyfeiriadau at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

(11Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar weithrediad Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(1).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan 1989 c. 42, a. 5(5A) (fel y’u mewnosodwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 7(4))

C2Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan O.S. 2021/343, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 36(7))

C3Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan S.I. 2021/342, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(7))

C4Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan 1988 c. 41, a. 115(4B) (fel y’u mewnosodwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 6(3))

C5Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan O.S. 2021/352, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 37(7))

C6Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan 2011 c. 20, a. 42(2A) (fel y’u mewnosodwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 12(1)(b))

C7Rhl. 13 eithirwyd (3.12.2021) gan O.S. 2021/339, rhl. 15 (fel y’u amnewidiwyd gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(7))

C8Rhl. 13 eithirwyd (15.7.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/797), rhlau. 1(2), 9(4)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 13 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Is-bwyllgorauLL+C

Is-bwyllgorauLL+C

14.—(1Caiff cyd-bwyllgor corfforedig benodi un neu ragor o is-bwyllgorau—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 13 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill) o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021;

(b)i gynghori’r cyd-bwyllgor corfforedig ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

(2Caiff is-bwyllgor a benodir o dan baragraff (1) gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig, neu fod wedi ei gyfansoddi’n gyfan gwbl o aelodau o’r fath.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad hwn ac unrhyw ddarpariaeth ddatganedig mewn unrhyw ddeddfiad arall, rhaid i swyddogaethau is-bwyllgor, nifer aelodau is-bwyllgor a chyfnod swydd pob aelod gael eu pennu gan y cyd-bwyllgor corfforedig.

(4Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 14 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)