RHAN 2Swyddogion gweithrediaeth

Prif weithredwr

Dyletswydd i benodi prif weithredwr3.

(1)

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig benodi prif weithredwr.

(2)

Rhaid i brif weithredwr cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)

adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir ym mharagraff (3), a

(b)

pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyd-bwyllgor corfforedig yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.

(3)

Y materion yw—

(a)

y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer ei wahanol swyddogaethau,

(b)

trefniadau’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag—

(i)

cynllunio ariannol,

(ii)

rheoli asedau, a

(iii)

rheoli risg,

(c)

nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer ei swyddogaethau,

(d)

trefniadaeth staff y cyd-bwyllgor corfforedig,

(e)

penodi staff y cyd-bwyllgor corfforedig, ac

(f)

y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu.

(4)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r prif weithredwr drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

(5)

Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad a wnaed o dan baragraff (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at yr aelodau am y tro cyntaf.

(6)

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan y rheoliad hwn.

(7)

Nid yw rheoliad 13 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir ar gyd-bwyllgor corfforedig gan baragraff (5).

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 3 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

F1...F14.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Prif swyddog cyllid

Dyletswydd i benodi prif swyddog cyllid5.

(1)

Mae adran 151 o Ddeddf 1972 (dyletswydd awdurdod lleol i benodi swyddog â chyfrifoldeb am weinyddu ariannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Daw’r testun presennol yn is-adran (1).

(3)

Ar ôl yr is-adran honno mewnosoder —

“(2)

This section applies to a corporate joint committee as it applies to a local authority.”

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 5 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Swyddogaethau adrodd prif swyddog cyllid6.

(1)

Mae Deddf 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 114 (swyddogaethau swyddog cyfrifol o ran adroddiadau), yn is-adran (3A)—

(a)

ym mharagraff (a), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989” mewnosoder “or, in the case of a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive”;

(b)

ym mharagraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Local Government and Housing Act 1989”.

(3)

Yn adran 115 (dyletswyddau awdurdodau o ran adroddiadau), ar ôl is-adran (4A) mewnosoder—

“(4B)

In the case of a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the duty under subsection (2).”

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 6 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Swyddog monitro

Dynodi swyddog monitro ac adroddiadau ganddo7.

(1)

Mae adran 5 o Ddeddf 1989 (dynodi swyddog monitro ac adroddiadau ganddo) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

O flaen is-adran (1C) mewnosoder—

“(1BB)

The officer designated under subsection (1)(a) above by a relevant authority which is a corporate joint committee may not be the authority’s chief executive.”

(3)

Yn is-adran (3)(a), ar ôl “chief finance officer” mewnosoder “or, in the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, with the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive and with their chief finance officer”.

(4)

Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

“(5A)

In the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the duty imposed by virtue of subsection (5)(a).”

(5)

Yn is-adran (8), yn y diffiniad o “relevant authority”, ar ôl “below” mewnosoder “, a corporate joint committee,”.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 7 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Swyddogaethau swyddog monitro o ran rhoi cefnogaeth a chyngor8.

(1)

Rhaid i’r swyddog monitro a ddynodwyd gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 5 o Ddeddf 1989 ddarparu cefnogaeth a chyngor i—

(a)

y cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas â’i gyfarfodydd;

(b)

unrhyw is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)

pob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig wrth gyflawni ei rôl;

(d)

pob person a benodir i is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig wrth gyflawni ei rôl.

(2)

Ond nid yw’r cyfeiriad at gyngor yn is-baragraffau (1)(c) a (d) yn cynnwys cyngor ynghylch a ddylid neu sut y dylid arfer swyddogaethau’r cyd-bwyllgor corfforedig, nac a ddylid bod wedi neu sut y dylid bod wedi eu harfer.

(3)

Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’r swyddog monitro y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y swyddog monitro, yn ddigonol i alluogi cyflawni swyddogaethau’r swyddog o dan y paragraff hwn.

(4)

Caiff y swyddog monitro drefnu i’w swyddogaethau o dan y paragraff hwn gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig.