RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

(3)

Daw’r rheoliadau a ganlyn i rym ar 6 Mai 2022—

(a)

rheoliad 10 (anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt);

(b)

rheoliad 27 (darllediadau electronig);

(c)

rheoliad 31 (dyletswydd i wneud cynlluniau deisebau);

(d)

rheoliad 32 (dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi).

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19722;
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 19883;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 19894;
ystyr “Deddf 2011” (“the 2011 Act”) yw Deddf Lleoliaeth 20115;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20116;

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw rheolau sefydlog cyd-bwyllgor corfforedig a wneir o dan y Rheoliadau sefydlu;

ystyr “y Rheoliadau sefydlu” (“the establishment Regulations”) yw—

(a)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 20217,

(b)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 20218,

(c)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 20219, a

(d)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 202110.