xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

(3Daw’r rheoliadau a ganlyn i rym ar 6 Mai 2022—

(a)rheoliad 10 (anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt);

(b)rheoliad 27 (darllediadau electronig);

(c)rheoliad 31 (dyletswydd i wneud cynlluniau deisebau);

(d)rheoliad 32 (dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi).

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(1);

ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(2);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(3);

ystyr “Deddf 2011” (“the 2011 Act”) yw Deddf Lleoliaeth 2011(4);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(5);

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw rheolau sefydlog cyd-bwyllgor corfforedig a wneir o dan y Rheoliadau sefydlu;

ystyr “y Rheoliadau sefydlu” (“the establishment Regulations”) yw—

(a)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(6),

(b)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021(7),

(c)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(8), a

(d)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021(9).