Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1345 (Cy. 347)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021

Gwnaed

29 Tachwedd 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

1 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

1 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2022.

Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

2.—(1Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Angels Invest Wales Limited (rhif y cwmni 04601844)

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru(3)

Comisiynydd y Gymraeg(4)

Comisiynydd Plant Cymru(5)

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru(6)

Cwmni Egino Limited (rhif y cwmni 13475029)

DBW FM Limited (rhif y cwmni 01833687)

DBW Holdings Limited (rhif y cwmni 10965662)

DBW Investments (2) Limited (rhif y cwmni 04811750)

DBW Investments (3) Limited (rhif y cwmni 05210122)

DBW Investments (4) Limited (rhif y cwmni 05433301)

DBW Investments (5) Limited (rhif y cwmni 06350427)

DBW Investments (6) Limited (rhif y cwmni 06763979)

DBW Investments (8) Limited (rhif y cwmni 07986338)

DBW Investments (9) Limited (rhif y cwmni 07986371)

DBW Investments (10) Limited (rhif y cwmni 07986246)

DBW Investments (11) Limited (rhif y cwmni 08516240)

DBW Investments (12) Limited (rhif y cwmni 10184816)

DBW Investments (14) Limited (rhif y cwmni 10184892)

DBW Investments (MIMS) Limited (rhif y cwmni 12324765)

DBW Managers Limited (rhif y cwmni 10964943)

DBW Services Limited (rhif y cwmni 10911833)

Development Bank of Wales Public Limited Company (rhif y cwmni 04055414)

Economic Intelligence Wales Limited (rhif y cwmni 11001584)

FWC Loans (North West) Limited (rhif y cwmni 10627745)

FWC Loans (TVC) Limited (rhif y cwmni 10628006)

FW Development Capital (North West) GP Limited (rhif y cwmni 08355233)

GCRE Limited (rhif y cwmni 13583670)

Help to Buy (Wales) Limited (rhif y cwmni 08708403)

Iechyd a Gofal Digidol Cymru(7)

Management Succession GP Limited (rhif y cwmni 10655798)

North East Property LP (rhif y cwmni LP017936)

North West Loans Limited (rhif y cwmni 07397297)

North West Loans NPIF GP Limited (rhif y cwmni 10597240)

TfW Innovation Services Limited (rhif y cwmni 13081802)

Transport for Wales Rail Ltd (rhif y cwmni 12619906)

TVC Loans NPIF GP Limited (rhif y cwmni 10597208)

TVUPB Limited (rhif y cwmni 08516331).

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

29 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod 38 o gyrff newydd yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.

Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff a fewnosodir yn yr Atodlen gan y Gorchymyn hwn gael eu cynnwys mewn cynnig Cyllidebol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2006 p. 32; mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25). Diwygiwyd is-adrannau (9) a (10) o adran 126A gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), adran 9 ac Atodlen 1, paragraff 2(6)(a) a (b) yn y drefn honno.

(3)

Sefydlwyd gan adran 17(1) o Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(4)

Sefydlwyd gan adran 2(1) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1).

(5)

Sefydlwyd gan adran 72(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14).

(6)

Sefydlwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p. 30).

(7)

Yn rhinwedd adran 22 (Awdurdodau Iechyd Arbennig) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (“Deddf 2006”), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, sefydlu cyrff arbennig (y cyfeirir atynt yn Neddf 2006 fel “Special Health Authorities”) at y diben o arfer unrhyw swyddogaethau a roddir iddynt gan y Ddeddf honno neu oddi tani. Sefydlodd erthygl 2 o Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020 (O.S 2020/1451 (Cy. 313)), a wnaed o dan yr adran honno, yr Awdurdod Iechyd Arbennig, Iechyd a Gofal Digidol Cymru.