2021 Rhif 1345 (Cy. 347)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2022.

Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 20182.

(1)

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 20182 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“Angels Invest Wales Limited (rhif y cwmni 04601844)”

“Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru”3

“Comisiynydd y Gymraeg”4

“Comisiynydd Plant Cymru”5

“Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru”6

“Cwmni Egino Limited (rhif y cwmni 13475029)”

“DBW FM Limited (rhif y cwmni 01833687)”

“DBW Holdings Limited (rhif y cwmni 10965662)”

“DBW Investments (2) Limited (rhif y cwmni 04811750)”

“DBW Investments (3) Limited (rhif y cwmni 05210122)”

“DBW Investments (4) Limited (rhif y cwmni 05433301)”

“DBW Investments (5) Limited (rhif y cwmni 06350427)”

“DBW Investments (6) Limited (rhif y cwmni 06763979)”

“DBW Investments (8) Limited (rhif y cwmni 07986338)”

“DBW Investments (9) Limited (rhif y cwmni 07986371)”

“DBW Investments (10) Limited (rhif y cwmni 07986246)”

“DBW Investments (11) Limited (rhif y cwmni 08516240)”

“DBW Investments (12) Limited (rhif y cwmni 10184816)”

“DBW Investments (14) Limited (rhif y cwmni 10184892)”

“DBW Investments (MIMS) Limited (rhif y cwmni 12324765)”

“DBW Managers Limited (rhif y cwmni 10964943)”

“DBW Services Limited (rhif y cwmni 10911833)”

“Development Bank of Wales Public Limited Company (rhif y cwmni 04055414)”

“Economic Intelligence Wales Limited (rhif y cwmni 11001584)”

“FWC Loans (North West) Limited (rhif y cwmni 10627745)”

“FWC Loans (TVC) Limited (rhif y cwmni 10628006)”

“FW Development Capital (North West) GP Limited (rhif y cwmni 08355233)”

“GCRE Limited (rhif y cwmni 13583670)”

“Help to Buy (Wales) Limited (rhif y cwmni 08708403)”

“Iechyd a Gofal Digidol Cymru”7

“Management Succession GP Limited (rhif y cwmni 10655798)”

“North East Property LP (rhif y cwmni LP017936)”

“North West Loans Limited (rhif y cwmni 07397297)”

“North West Loans NPIF GP Limited (rhif y cwmni 10597240)”

“TfW Innovation Services Limited (rhif y cwmni 13081802)”

“Transport for Wales Rail Ltd (rhif y cwmni 12619906)”

“TVC Loans NPIF GP Limited (rhif y cwmni 10597208)”

“TVUPB Limited (rhif y cwmni 08516331)”.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod 38 o gyrff newydd yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.

Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff a fewnosodir yn yr Atodlen gan y Gorchymyn hwn gael eu cynnwys mewn cynnig Cyllidebol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.