Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1334 (Cy. 345)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Ffordd Osgoi Aberhonddu, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2021

Gwnaed

29 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

6 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Ffordd Osgoi Aberhonddu, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2021 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Rhagfyr 2021.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy’n dechrau am 00:00 o’r gloch ar 6 Rhagfyr 2021 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw cefnffordd yr A40 Rhaglan i Lanymddyfri rhwng Cylchfan Brynhich a Chylchfan Tarell yn Aberhonddu yn Sir Powys;

Gwaharddiadau

3.  Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar y darn o’r gefnffordd.

4.  Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darn o’r gefnffordd.

5.  Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darn o’r gefnffordd.

Cymhwyso

6.  Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4 a 5 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i’r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para’r Gorchymyn hwn

7.  Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd ar ran y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn gweithredu o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

Nicci Hunter

Arweinydd y Tîm Busnes

Llywodraeth Cymru

Dyddiedig 29 Tachwedd 2021

(1)

1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26), ac Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.