2021 Rhif 1334 (Cy. 345)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Ffordd Osgoi Aberhonddu, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19841, yn gwneud y Gorchymyn hwn.