Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
(2)
Diwygio Rheoliadau 19922.
(1)
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
(2)
Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN
“SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
Prescribed figure
Blaenau Gwent
56,401
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr
118,204
Caerphilly/Caerffili
144,061
Cardiff/Caerdydd
293,830
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin
152,810
Ceredigion
60,661
Conwy
97,000
Denbighshire/Sir Ddinbych
77,165
Flintshire/Sir y Fflint
124,648
Gwynedd
101,957
Isle of Anglesey/Ynys Môn
57,101
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful
47,544
Monmouthshire/Sir Fynwy
77,843
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot
116,296
Newport/Casnewydd
120,851
Pembrokeshire/Sir Benfro
102,744
Powys
109,186
Rhondda Cynon Taf
191,775
Swansea/Abertawe
199,723
Torfaen
75,369
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg
107,403
Wrexham/Wrecsam
107,142”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.