2021 Rhif 1297 (Cy. 330)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R, 333(4B) a (7) o’r Ddeddf honno3, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Tachwedd 2021.

Diwygio Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 20212.

(1)

Mae Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 20214 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn lle erthygl 1(2)(a) rhodder—

“(a)

daw’r erthygl hon ac erthyglau 2(1) a 3(1) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;”

(3)

Hepgorer y canlynol—

(a)

erthygl 2(2)(a);

(b)

erthygl 2(3)(b);

(c)

erthygl 3(2)(a); ac

(d)

erthygl 3(3).

Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 drwy hepgor darpariaethau yn y Gorchymyn mewn perthynas â’r categorïau o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru mewn cysylltiad â hwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.