Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
22 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23 Tachwedd 2021
Yn dod i rym
25 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R, 333(4B) a (7) o’r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Tachwedd 2021.
2.—(1) Mae Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 1(2)(a) rhodder—
“(a)daw’r erthygl hon ac erthyglau 2(1) a 3(1) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;”
(3) Hepgorer y canlynol—
(a)erthygl 2(2)(a);
(b)erthygl 2(3)(b);
(c)erthygl 3(2)(a); ac
(d)erthygl 3(3).
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 drwy hepgor darpariaethau yn y Gorchymyn mewn perthynas â’r categorïau o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru mewn cysylltiad â hwy.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1990 p. 8 (“Deddf 1990”). Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 4 iddi, ac adran 55 o’r Ddeddf honno a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi, a chan adran 1(2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 1 iddi. Mae diwygiadau i adran 74 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan O.S. 2000/253. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf 1990, sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu o ran Cymru yw gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 7 iddi.