NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3037 (Cy. 303)) (“Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”). Mae’r diwygiadau yn cymryd effaith mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022. Y prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—

(a)

gwneud newidiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;

(b)

gwneud newidiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd â chaniatâd Calais neu bersonau penodol sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu sydd wedi cael profedigaeth;

(c)

newid y dyddiad olaf i wneud cais i 28 Chwefror.

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r diffiniadau.

Mae rheoliad 5 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â chymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer categorïau cymhwystra newydd sy’n gymwys mewn perthynas â cheisiadau am gymorth gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022. Mae’n cyfyngu categorïau cymhwystra penodol a oedd yn gymwys cyn 1 Medi 2022 i fyfyrwyr sy’n dod o fewn y categorïau hynny cyn 1 Medi 2022 ac sy’n ymgymryd â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022. Mae’r categorïau cymhwystra hynny yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chwrs o’r fath a’r cwrs cyntaf y caniateir i statws y person hwnnw fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo iddo yn unol â Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau cyfatebol mewn perthynas â throsglwyddo cymhwystra myfyriwr cymwys.

Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau sy’n ymwneud â grantiau at gostau byw a chostau eraill, grantiau dibynyddion mewn oed a lwfans dysgu rhieni.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, yn bennaf i fewnosod paragraffau cymhwystra newydd a diffiniadau cysylltiedig. Mae’r diwygiadau yn gymwys mewn perthynas—

  • â phersonau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt, personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth, personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a phersonau sy’n bodloni gofynion paragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo, gan gynnwys plant y rhoddwyd “caniatâd oherwydd llinach” iddynt (personau sydd â chaniatâd Calais);

  • â phersonau y rhoddir caniatâd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig o dan y rheolau mewnfudo oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu oherwydd eu bod wedi cael profedigaeth a’u plant;

  • â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;

  • â phersonau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd (“y Cytundebau”) ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio (fel y diffinnir “residence scheme immigration rules” yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020);

  • â phersonau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y Cytundebau nad yw eu ceisiadau am ganiatâd o’r fath wedi eu penderfynu eto, a dinasyddion Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddynt gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

  • ag aelodau o deuluoedd personau perthnasol o Ogledd Iwerddon sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • â gweithwyr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1213);

  • â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a arferodd hawl i breswylio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • â gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028;

  • ag aelodau o deuluoedd gwladolion o’r Deyrnas Unedig sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd;

  • â gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sy’n preswylio yn Gibraltar a phersonau sydd â hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

  • â phlant gwladolion Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

  • â phlant gweithwyr Twrcaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae’r diwygiadau hefyd yn gwneud mân gywiriadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.