(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys yng Nghymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3310 (Cy. 300)) (“y prif Orchymyn”) ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau amddiffyn penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC (“Penderfyniad y Comisiwn”).
Mae erthygl 4 yn diwygio erthygl 5 o’r prif Orchymyn ac yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru i ddatgan ardal rheoli adar gwyllt ac ardal monitro adar gwyllt o dan amgylchiadau penodol, yn lle’r rhwymedigaeth a oedd arnynt i wneud hynny.
Mae erthyglau 2, 5 a 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Mae erthygl 6 yn diwygio erthygl 11(1) o’r prif Orchymyn fel bod rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, sicrhau bod arolygydd milfeddygol yn ymweld â’r mangreoedd hynny o fewn yr ardal rheoli adar gwyllt mor aml ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn monitro lledaeniad posibl ffliw adar.
Mae erthygl 8 yn diwygio paragraff 4(b) o Atodlen 3 i’r prif Orchymyn fel bod y gofyniad bod rhaid i berson sy’n mynd i fangre neu’n ei gadael sicrhau nad yw’r tu allan i’r cerbyd wedi ei faeddu â llaid, ysgarthion anifeiliaid neu adar etc. hefyd yn gymwys i gerbydau sy’n cludo dofednod.
Mae erthygl 9 yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.