NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynyddu uchafswm treuliau etholiad ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r cynnydd yn adlewyrchu chwyddiant ers i’r uchafswm gael ei amrywio ddiwethaf gan Orchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) 2014 (O.S. 2014/1870).

Mae uchafswm treuliau etholiad ymgeiswyr yn cynnwys swm penodedig (a fynegir mewn punnoedd) plws swm (a fynegir mewn ceiniogau) ar gyfer pob cofnod yn y gofrestr etholwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.