Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i effaith y newid ar Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 fel y’i gwnaed yn wreiddiol ac maent yn fodlon nad yw’r newid yn sylweddol.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a oedd yn ofynnol gan reoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011, wedi penderfynu gwneud y newid a gynigir yn y cais.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 19 Tachwedd 2021.
Diwygio Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 20172.
(1)
Mae Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 (“Gorchymyn 2017”) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn lle paragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 1 i Orchymyn 2017 rhodder “The authorised development must be commenced no later than 29 March 2024.”
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017, gorchymyn cydsyniad datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais a wnaed yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011 ar gyfer diwygiad ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r terfyn amser y mae rhaid cychwyn y datblygiad a awdurdodir gan y Gorchymyn o’i fewn.