Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1284 (Cy. 323)

Cynllunio Seilwaith, Cymru

Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021

Gwnaed

17 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

19 Tachwedd 2021

Mae cais wedi ei wneud, o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008(1), i Weinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011(2) ar gyfer newid ansylweddol i Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i effaith y newid ar Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 fel y’i gwnaed yn wreiddiol ac maent yn fodlon nad yw’r newid yn sylweddol.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a oedd yn ofynnol gan reoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011, wedi penderfynu gwneud y newid a gynigir yn y cais.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 19 Tachwedd 2021.

Diwygio Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017

2.—(1Mae Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 (“Gorchymyn 2017”) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 1 i Orchymyn 2017 rhodder “The authorised development must be commenced no later than 29 March 2024.”

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

17 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017, gorchymyn cydsyniad datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais a wnaed yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011 ar gyfer diwygiad ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r terfyn amser y mae rhaid cychwyn y datblygiad a awdurdodir gan y Gorchymyn o’i fewn.

(1)

2008 p. 29. Diwygiwyd paragraff 2 gan baragraff 4 o Atodlen 8 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), gan baragraffau 1 a 72 o Atodlen 13 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), gan adran 28 o Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7), a chan baragraff 8(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).

(2)

O.S. 2011/2055. Gwnaed diwygiadau perthnasol i’r offeryn hwn gan O.S. 2012/635, ac O.S. 2015/760. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(3)

O.S. 2017/330, fel y’i cywirwyd gan O.S. 2017/969.