NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 17 Tachwedd 2021—
adran 19 (cymhwysiad person i gael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol yng Nghymru);
adran 20 (anghymhwysiad person rhag cael ei ethol a bod yn aelod o awdurdod lleol);
adran 21 (anghymhwysiad aelod o awdurdod lleol yng Nghymru rhag cael ei benodi i swydd daledig);
paragraffau 1(3) i 1(5), 1(7), 1(9), 5 a 13 o Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas ag etholiadau).
Mae erthygl 3 yn diwygio erthygl 6 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021 i hepgor paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 2021 rhag y darpariaethau a ddygir i rym ar 5 Mai 2022. Mae paragraff 2 o Atodlen 6 yn ddarpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â chynorthwywyr gweithrediaethau awdurdodau lleol nad oes angen ei dwyn i rym gan fod erthygl 2 yn dwyn i rym baragraffau 1(3) ac 1(7) o Atodlen 2.
Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol i sicrhau nad yw’r darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) a ddygir i rym gan erthygl 2 ar 17 Tachwedd 2021 ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol a gynhelir ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny. Mae hyn yn golygu y bydd y darpariaethau perthnasol yn cael effaith at ddibenion y trefniadau paratoadol sydd eu hangen ar gyfer etholiad o’r fath, gan gynnwys penderfynu a yw ymgeisydd yn gymwys i gael ei ethol. Fodd bynnag, ni fydd y darpariaethau a restrir yn erthygl 4(2) yn cael unrhyw effaith at ddibenion unrhyw etholiad llywodraeth leol a gynhelir cyn 5 Mai 2022.
