Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaeth Drosiannol a Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) 2021.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

mae i “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yr ystyr a roddir gan adran 171(1) o Ddeddf 2021.