2021 Rhif 1248 (Cy. 320)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 45C(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.
Yn unol ag adran 45Q(4)2 o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 7.00 a.m. ar 15 Tachwedd 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.

Yn rheoliad 16A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20203

(a)

yn y pennawd, yn lle “fangreoedd lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio” rhodder “leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig”;

(b)

ym mharagraff (2), ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

“(e)

sinema, ac eithrio sinema o sedd cerbyd;

(f)

neuadd gyngerdd neu theatr, ac eithrio theatr o sedd cerbyd.”

Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) er mwyn darparu bod rheoliad 16A o’r Rheoliadau hynny hefyd yn gymwys i bersonau sy’n gyfrifol am sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau. Rhaid i’r personau hynny bellach gymryd mesurau rhesymol i sicrhau mai dim ond os oes gan oedolyn dystiolaeth o faterion penodol, gan gynnwys brechiad â brechlyn awdurdodedig, y caniateir iddo fod yn bresennol yn y fangre.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.