2021 Rhif 1247 (Cy. 319)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 20001 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19833, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Tachwedd 2021.

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 20012.

Yn rheoliad 56(3C) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 20014, yn lle “4 November 2021” rhodder “28 March 2022”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phleidleisio drwy ddirprwy mewn is-etholiadau llywodraeth leol penodol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, er mwyn estyn y sail ychwanegol i geiswyr wneud cais am bleidleisiau drwy ddirprwyon brys, neu newid eu dirprwy enwebedig, a weithredir gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Mae’r sail ychwanegol hon yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn gallu mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol o ganlyniad i ddilyn deddfwriaeth berthnasol, canllawiau perthnasol neu gyngor meddygol perthnasol mewn perthynas â’r pandemig COVID-19.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.