- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
9 Tachwedd 2021
Yn dod i rym
10 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Tachwedd 2021.
2. Yn rheoliad 56(3C) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(4), yn lle “4 November 2021” rhodder “28 March 2022”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2021
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phleidleisio drwy ddirprwy mewn is-etholiadau llywodraeth leol penodol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, er mwyn estyn y sail ychwanegol i geiswyr wneud cais am bleidleisiau drwy ddirprwyon brys, neu newid eu dirprwy enwebedig, a weithredir gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Mae’r sail ychwanegol hon yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn gallu mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol o ganlyniad i ddilyn deddfwriaeth berthnasol, canllawiau perthnasol neu gyngor meddygol perthnasol mewn perthynas â’r pandemig COVID-19.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2000 p. 2; gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 4 gan adran 14(2)(a) ac (8) o Ddeddf Gweinydd u Etholiadol 2006 (p. 22). Am y diffiniad o “prescribed”, gweler adran 202(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) i’w darllen ynghyd â pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.
Trosglwyddwyd swyddogaethau ’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) ac Atodlen 1 iddo.
1983 p. 2; mae paragraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 yn darparu y bydd Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
O.S. 2001/341. Gwnaed diwygiadau perthnasol i reoliad 56 gan O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910, O.S. 2013/3198, O.S. 2020/1399 (Cy. 310) ac O.S. 2021/193 (Cy. 44).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: