2021 Rhif 1245 (Cy. 317) (C. 70)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—

  1. (i)

    adran 312(2) o Ddeddf 1996—

    1. (aa)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

    2. (bb)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

  2. (ii)

    adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5792 o Ddeddf 1996;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—

  1. (i)

    adran 312(4) o Ddeddf 1996—

    1. (aa)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

    2. (bb)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

  2. (ii)

    adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19963;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 20144;

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 85 o Ddeddf 1996;

mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 20126;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru7;

mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;

mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19988;

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3)

At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)

os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)

os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(4)

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 20219.
Annotations:
Commencement Information

I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd

2.

Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

Annotations:
Commencement Information

I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2022

3.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022—

(a)

adrannau 2 i 4;

(b)

adrannau 6 i 14;

(c)

adrannau 17 i 36;

(d)

adran 38;

(e)

adrannau 40 i 44;

(f)

adrannau 47 i 49;

(g)

adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)

adran 50(4) i (5);

(i)

adrannau 51 i 53;

(j)

adran 55;

(k)

adran 59;

(l)

adrannau 63 i 66;

(m)

adrannau 68 i 69;

(n)

adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)

yn yr Atodlen—

(i)

paragraff 1;

(ii)

paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);

(iii)

paragraff 4(2) i 4(8);

(iv)

paragraff 4(9);

(v)

paragraff 4(10);

(vi)

paragraff 4(13) i 4(18);

(vii)

paragraff 4(19)(b);

(viii)

paragraff 4(20) a 4(21);

(ix)

paragraff 4(23) i 4(29);

(x)

paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xi)

paragraff 7;

(xii)

paragraff 8;

(xiii)

paragraff 11(a);

(xiv)

paragraff 12(a);

(xv)

paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);

(xvi)

paragraff 14(2) a (3);

(xvii)

paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);

(xviii)

paragraff 19(5)(e)(ii);

(xix)

paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);

(xx)

paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxi)

paragraff 22;

(xxii)

paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);

(xxiii)

paragraff 23(4);

(xxiv)

paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);

(xxv)

paragraff 24(3) a (6)(a).

Annotations:
Commencement Information

I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud

4.

Person—

(a)

sydd ym mlwyddyn 11;

(b)

nad yw mewn ysgol ac a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022;

(c)

sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

(d)

sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;

(e)

y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(f)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(g)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)

dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(h)

y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(i)

y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)

dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)

gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu

(bb)

ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(j)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(k)

y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(l)

nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 200010

(i)

yn mynd rhagddo; neu

(ii)

wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;

(m)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(n)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(o)

y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)

nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)

bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)

nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(p)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)

gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu

(bb)

ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(q)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Annotations:
Commencement Information

I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn11:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 4 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 5

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 6 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 7 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 8 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 10 i 14 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 15

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 16 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

Adrannau 17 i 20 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 21 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 22 i 31 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 32 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 33 i 35 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 36 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 37

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 38 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 39

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adrannau 40 i 44 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 45

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 46

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 47 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 48 i 49 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 51 i 53 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 54 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 55 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 56 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 56(1)

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 56(4) i (6)

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adrannau 57 i 58

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 59 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 60

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 61

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 62

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adrannau 63 i 64 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 65 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 66 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 67

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adrannau 68 i 69 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 70 i 73

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 74

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 75 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 76 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 77 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/374 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 78 i 81

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 82

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

Adran 83 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 84

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 85 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 86 i 90

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 91 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 92 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adrannau 93 i 94

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 95 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Adran 96 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 3

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 11(b)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 12(b)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 13

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33)

(yn llawn)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 20

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c)

1 Medi 2021